George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne yn bwrw mlaen gyda chynlluniau i ddiwygio’r banciau heddiw er gwaetha rhybuddion y gallai niweidio’r economi.

Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Fancio (ICB) wedi argymell y dylid gwahanu adrannau stryd fawr y banciau oddi wrth yr adrannau buddsoddi.

Fe allai’r diwygiadau gostio tua £7 biliwn i’r banciau, gan gynyddu pryder y bydd yn arafu benthyciadau pan mae’r economi mor fregus.

Dywedodd  yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable ddoe, y byddai’r Llywodraeth yn gweithredu holl argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Fancio dan gadeiryddiaeth Syr John Vickers.

Mae disgwyl y bydd y Canghellor, George Osborne, yn gwneud cyhoeddiad yn y Senedd heddiw, gan ddweud y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu cyn yr etholiad nesaf ac y bydd y trefniadau newydd yn eu lle erbyn 2019.

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu i ymateb i’r chwalfa ariannol dair blynedd yn ôl, pan fu rhaid i’r Llywodraeth wario biliynau o bunnoedd yn achub banciau fel Northern Rock, Lloyds TSB ac RBS.