Cameron a Clegg
Fe fydd yn rhaid i David Cameron amddiffyn ei benderfyniad i ddefnyddio’i feto yn erbyn cytundeb newydd yr Undeb Ewropeaidd heddiw, wedi i Nick Clegg, ddweud fod y penderfyniad yn “gam gwael i Brydain.”

Mae’r glymblaid yn San Steffan dan fwy o bwysau nag erioed wedi i’r Dirprwy Brif Weinidog wneud beirniadaeth gyhoeddus iawn o benderfyniad David Cameron i wrthwynebu cytundeb newydd i Ewrop.

Cafodd y rhwyg mawr yn y Cabinet ei ddatgelu ddoe, pan ddywedodd Nick Clegg ei fod yn “siomedig iawn” gyda defnydd y Prif Weinidog o’i feto ym Mrwsel yr wythnos ddiwethaf.

Mewn datganiad i Dŷ’r Cyffredin heddiw, mae disgwyl i David Cameron fynnu na allai dderbyn y cytyndeb heb sicrhau amodau “synhwyrol” i amddiffyn buddiannau Prydain, sydd wedi cael eu gwrthod gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Nick Clegg, a nifer o’r Dems Rhydd blaenllaw, wedi cyhuddo David Cameron o fethu â sicrhau amodau i amddiffyn economi’r Deyrnas Unedig drwy ddefnyddio’i feto.

“Dw i’n siomedig dros ben gyda chanlyniad y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, yn benodol oherwydd fy mod i’n meddwl nawr fod yna beryg y gall y DU gael ei hymylu o fewn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Nick Clegg ar raglen BBC1 Andrew Marr.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd hyn yn dda i swyddi, y ddinas, nag unlle arall, dw i ddim yn meddwl fod hyn yn dda ar gyfer twf, nac ar gyfer teuluoedd ar hyd a lled y wlad.”

Pan ofynnwyd iddo beth yn union ddywedodd wrth y Prif Weinidog mewn sgwrs ffôn am 4am fore Gwener, dywedodd arweinydd y Dems Rhydd ei fod wedi dweud “bod hyn yn gam gwael i Brydain. Fe wnes i’n glir nad oedd hi’n bosib i fi groesawu hyn.”

Roedd Nick Clegg hefyd yn glir am ei rwystredigaeth gyda dylanwad gwrth-Ewropeaidd nifer o’r ASau Ceidwadol ar David Cameron – sydd wedi llongyfarch y Prif Weinidog am ddefnyddio’i feto.

Mae ei sylwadau wedi ysgogi cyhuddiadau gan Lafur fod David Cameron yn edrych ar ôl buddiannau’r meinciau cefn, dros fuddiannau Prudain.