Mae mam a merch wedi cael eu lladd mewn damwain car yn swydd Mayo, Iwerddon neithiwr.

Mi wnaeth y gyrrwr 40 oed a’i merch 14 oed, oedd yn eistedd yn sedd flaen y car, farw ar ôl i’w car droi drosodd a glanio mewn afon.

Mi wnaeth tri teithiwr arall yn eu harddegau lwyddo i ddianc o’r cerbyd. Aethpwyd a hwy i’r ysbyty ond ni chredir fod eu hanafiadau yn rhai difrifol.