Mae mwy na 10,000 o dai yn yr Alban yn parhau i fod heb drydan ar ôl y stormydd cryfion nos Wener.
Mae dros 1,000 o beirianwyr yn gweithio i geisio trwsio’r difrod a wnaethpwyd gan y corwyntoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Scottish Hydro mai gogledd a gorllewin yr Alban a ddioddefodd y tywydd gwaethaf.
Mae arbenigwyr tywydd yn rhagweld y bydd y gwyntoedd cryfion yn dychwelyd i Brydain yr wythnos nesaf, ond dim rhai mor gryf a gafwyd nos Wener.