(chvhLR10 CCA3,0)
Mae adroddiad gan grŵp o arbenigwyr yn dweud bod angen rhoi’r gorau i ddedfrydau oes otomatig am lofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr.

Maen nhw’n dadlau bod angen cosbau sy’n gweddu i union natur y drosedd, yn hytrach na rhoi’r un ddedfryd am lofruddiaethau trugaredd a llofruddiaethau cyfres.

Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan y Grŵp Cynghori ar Adolygu Llofruddiaeth, sy’n cynnwys cyn fargyfreithwyr ac academyddion ym maes y gyfraith.

Maen nhw’n dadlau bod y drefn fel y mae’n annheg ac annealladwy gyda dryswch tros union gyfnodau carcharorion dan glo.

Ers 1965, mae barnwyr yn gorfod rhoi dedfryd oes i bob llofrudd, beth bynnag yr amgylchiadau, ond mae hynny’n gallu golygu cyn lleied â 15 mlynedd gyda chyfnod pellach pan allai’r llofrudd gael ei alw’n ôl i garchar.

Grwpiau dioddefwyr yn gwrthod

Ond mae grwpiau sy’n cynrychioli teuluoedd dioddefwyr wedi gwrthod y syniad, gan alw am ddedfrydau oes sy’n golygu hynny – carchar am byth.

Ac mae’r cyn Arglwydd Ganghellor, Charlie Falconer, hefyd wedi gwrthwynebu gan ddweud bod barnwyr, yn ymarferol, yn gallu gwneud gwahaniaeth rhwng un llofruddiaeth a’r llall.

Yn achos ‘llofruddiaethau trugaredd’, y ddedfryd arferol oedd dynladdiad, meddai ar Radio Wales.

Ynghynt eleni, roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Kenneth Clarke, wedi cyhoeddi bwriad i ymestyn y dedfrydau oes otomatig i rai troseddau difrifol eraill.