Hugh Grant
Cafodd ditectifs preifat eu comisiynu gan newyddiadurwyr i ddarganfod manylion personol am sêr ym myd chwaraeon ac actorion fel Hugh Grant a’i gyn-gariad Liz Hurley, clywodd Ymchwiliad Leveson heddiw.

Roedd cofnodion gafodd eu darganfod yng nghartref y ditectif Steve Whittamore yn 2003 yn dangos  sut roedd papurau newydd wedi gofyn am wybodaeth  am bob math o fanylion, o gyfeiriadau i gofnodion troseddol, clywodd yr ymchwiliad i safonau’r wasg.

Cafodd cyrch ei gynnal ar gartref Whittamore yn Hampshire ym mis Mawrth 2003 fel rhan o ymchwiliad Operation Motorman i brynu gwybodaeth cyfrinachol yn anghyfreithlon. Cafodd Whittamore ei ddedfrydu yn 2005 am gael mynediad anghyfreithlon i wybodaeth a’i basio mlaen at newyddiadurwyr.

Roedd un papur newydd wedi talu £800 yn 2002 am fil fôn seren amlwg ym myd chwaraeon.