David Cameron
Fe fydd David Cameron heddiw yn trafod cynlluniau dadleuol i hybu’r economi drwy rannu gwybodaeth y Gwasanaeth Iechyd gyda chwmnïau gofal iechyd preifat.

Fe fydd y Prif Weinidog yn dadlau bod rhannu gwybodaeth y GIG yn hybu’r economi.

Fe allai cydweithio agosach gyda chwmnïau gwyddoniaeth olygu bod ganddyn nhw fwy o ryddid i gynnal profion clinigol mewn ysbytai, yn ogystal â chael gweld cofnodion cleifion anhysbys.