George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne heddiw yn amlinellu cynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi £30 biliwn i wella’r ffyrdd, rheilffyrdd a’r rhwydwaith bandeang wrth iddo geisio hybu’r economi.
Mae disgwyl i’r cynllun fuddsoddi £20 biliwn o arian preifat o gronfeydd pensiwn i ariannu’r datblygiad.
Mae’r Llywodraeth wedi arwyddo cytundeb gyda’r cronfeydd pensiwn mawr a fydd yn golygu bod cynilion yn cal eu buddsoddi nôl yn yr economi.
Fe fydd manylion llawn y Llywodraeth yn cael eu cyhoeddi gan George Osborne yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.