Charlotte Church
Fe fydd y gantores Charlotte Church ymhlith y rhai fydd yn rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw.

Mae disgwyl i Charlotte  Church ddisgrifio sut roedd y News of the World wedi cyhoeddi stori am ei thad yn cael perthynas â dynes arall, er eu bod yn ymwybodol bod ei mam yn yr ysbyty ar ôl ceisio lladd ei hun.

Fe fydd hi hefyd yn dweud sut roedd y wasg wedi amharu ar ei bywyd preifat drwy roi camerâu cudd mewn llwyni, a ffotograffwyr yn ceisio agor drysau ceir er mwyn  tynnu lluniau i fyny ei sgert.

Fe fydd Ymchwiliad Leveson hefyd yn clywed tystiolaeth gan y ddarlledwraig Anne Diamond, a’r cyn-athro gafodd ei arestio ar gam am lofruddiaeth Joanna Yeates ym Mryste.