Mae dau fachgen 14 a 17 oed wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu holi gan heddlu Manceinion ar amheuaeth o lofruddio gwraig weddw oedrannus.

Fe fu farw Nellie Geraghty, 79 oed, ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w phen wrth i ladron ddwyn ei bag a oedd yn cynnwys llwch ei gŵr Frank.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Oldham ddydd Iau, ac fe fu farw yn yr ysbyty ddiwrnod yn ddiweddarach.

Roedd y ddau fachgen wedi cael eu harestio’n wreiddiol am amheuaeth o ladrad, ond fe gawson nhw’u holi wedyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mewn datganiad, dywedodd teulu’r gyn-weithwraig melinau cotwm: “Fe fydd Nellie bob amser yn cael ei chofio gan ei ffrindiau a’i theulu. Rydyn ni wedi colli’r fam orau yn y byd, a’r chwaer, nain, modryb a ffrind orau y gallai neb ei chael.”