Pensiynau'r sector cyhoeddus yw asgwrn y gynnen (o wefan undeb yr UCU)
Chwerwi ymhellach mae’r anghydfod rhwng y llywodraeth a’r undebau o flaen streic undydd fawr gan weithwyr y sector cyhoeddus ddydd Mercher nesaf.
Mae’r undebau wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiadau gan weinidogion y Llywodraeth.
Mae Prif Ysgrifennydd i’r Trysorydd, Danny Alexander, wedi rhybuddio y gallai’r llywodraeth dynnu’n ôl gynnig i gyfaddawdu ar bensiynau os bydd y streic yn mynd ymlaen. Ac mae Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, wedi bygwth y gallai’r Llywodraeth ddeddfu er mwyn ei gwneud hi’n fwy anodd i’r undebau gynnal streiciau yn y dyfodol.
Meddai Brian Strutton, ysgrifennydd cenedlaethol gwasanaethau cyhoeddus y GMB:
“Os oes ar y llywodraeth eisiau gweld y streic yn peidio â mynd ymlaen, fe fyddai’n well iddyn nhw siarad gyda ni yn lle gwneud bygythiadau trwy’r cyfryngau.
“Dim ond datblygiad munud-olaf yn y trafodaethau all stopio’r streic – ond dyw hyn ddim am ddigwydd os nad ydyn ni’n cyfarfod hyd yn oed.”
Anhrefn
Mae disgwyl i’r streic ddydd Mercher arwain at anhrefn ar hyd a lled Prydain.
Yn ogystal ag ysgolion yn cau a llawdriniaethau’n cael eu gohirio mewn ysbytai, mae’r streic yn debyg o effeithio ar borthladdoedd a meysydd awyr yn ogystal.
Mae’r gweinidog mewnfudo Damian Green wedi dweud y bydd yn barod i ddefnyddio milwyr er mwyn cadw’r porthladdoedd a’r meysydd awyr yn agored.
“Rhaid i Brydain fod yn agored i fusnes,” meddai.
“Mae’r streic yn gyfan gwbl ddiangen ac yn anghyfrifol.
“Does dim rheswm gan neb i deimlo’n flin gyda’r cynnig pensiwn sydd gerbron. Fe fydd pensiynau’r sector cyhoeddus yn dal yn well na phensiynau sector preifat.”
Mae arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, yn honni fodd bynnag nad oes gan weinidogion ddiddordeb mewn rhwystro’r streic.
“Dydyn nhw ddim wedi bod yn trio’i stopio hi rhag digwydd,” meddai. “Y cyfan maen nhw’n ei wneud yw poethi’r ddadl.”