Alex Salmond
Mae cwpl a enillodd £161m o arian y Loteri wedi rhoi £1m i Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) wrth i’r blaid baratoi ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth.

Mae Chris a Colin Weir wedi mynnu bod y rhodd – y mwyaf yn hanes yr SNP – yn ymwneud â “mwy na gwleidyddiaeth.”

Fe enillodd y cwpl, sy’n dod o Largs yn Swydd Ayr, jacpot yr EuroMillions  ym mis Gorffennaf. Mae nhw eisoes wedi rhoi arian tuag at nifer o achosion da yn lleol.

Heddiw cafodd ei gadarnhau eu bod wedi rhoi £1m i’r SNP. Dywedodd Chris a Colin Weir eu bod wedi bod yn gefnogwyr brwd o’r SNP ers amser hir.

Dywedodd Chris Weir: “Fe ddylai pob cymdeithas, pob gwlad gael yr hawl i benderfynu ar ei llwybr ei hun. Rydw i’n credu’n gryf yn hyn.

“Yr unig bobl sydd â’r hawl i benderfynu ynglŷn â dyfodol yr Alban yw pobl yr Alban eu hunain ac rydan ni eisiau cefnogi’r SNP a’r ymgyrch am refferendwm er mwyn helpu’r Alban i wneud y penderfyniad yma mewn ffordd deg.”

Mae’r SNP wedi dweud y byddan nhw’n cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ail hanner tymor Senedd yr Alban.

Mae Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi croesawu’r rhodd gan y cwpl gan ddweud y bydd yr arian yn hwb i’r blaid yn eu hymgyrch i sicrhau pleidlais Ie yn y refferendwm ar annibyniaeth.

Daw’r rhodd fis yn unig ers i’r SNP gyhoeddi bod cyn-fardd cenedlaethol yr Alban Edwin Morgan wedi gadael £918,000 i’r SNP yn ei ewyllys.