Mae Dug Caeredin wedi ymosod ar ffermydd gwynt, gan ddweud eu bod nhw’n “hollol ddiwerth” ac yn “warthus”.

Honnodd na fyddai ffermydd gwynt “byth yn gweithio” ac na ddylai cwsmeriaid cwmnïau trydan fod yn talu trwy eu trwynau amdanyn nhw.

Dywedodd fod unrhyw un oedd yn credu fod ffermydd gwynt yn gwneud gwahaniaeth yn “credu mewn straeon tylwyth teg”.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i ganiatáu adeiladu rhagor o ffermydd gwynt ar y tir.

Ym Mhowys mae dros fil o brotestwyr wedi ymgyrchu yn erbyn codi rhagor o ffermydd gwynt, gan ddadlau y bydd y peilonau fydd eu hangen i gario’r trydan dros y ffin i Loegr yn hagru’r ardal ac yn arwain at lai o dwristiaid yn ymweld yno.

Daeth sylwadau Dug Caeredin wrth iddo gwrdd gyda Esbjorn Wilmar o gwmni Infinergy, sy’n adeiladu a chynnal ffermydd gwynt.

Dywedodd ei fod “wedi ei synnu braidd gan ei farn ar y mater”.

Ceisiodd ddadlau fod ffermydd gwynt yn fodd cost-effeithiol o greu egni adnewyddadwy ond fod y Dug wedi ei gyhuddo “o gredu mewn straeon tylwyth teg”.