Mae’n wêr
Bydd Dinbych-y-Pysgod yn serennu yn hysbyseb Nadolig archfarchnad Tesco eleni.

Bod blwyddyn mae tua 600 o bobol yn rhedeg i’r môr yn y dref ar arfordir Sir Benfro ar Ŵyl San Steffan er mwyn codi arian at elusennau.

Mae cwmni cynhyrchu Smuggler Films wedi ail greu’r digwyddiad yn yr hysbyseb a fydd yn cael ei darlledu droeon cyn y Nadolig.

Y gobaith yn lleol yw y bydd y sylw ar y sgrin fach yn denu rhagor o bobol i’r ardal.

“Fe fydd Dinbych-y-pysgod yn ymddangos ar setiau teledu ar draws y wlad am dros fis,” meddai Chris Osborne, cadeirydd siambr masnach a’r nofiad.

“Mae’n mynd i fod yn hwb mawr i dwristiaeth yma.”

Mae Dinbych-y-pysgod yn un o 12 ardal ar draws Prydain a fydd yn serennu yn yr hysbyseb, a fydd yn cael ei ddangos am bum wythnos o nawr ymlaen.