Mochyn Cwta
Mae canolfan achub anifeiliaid wedi galw am gymorth y cyhoedd ar ôl gorfod gofalu am ddegau o foch cwta.

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfa RSPCA Ashley Heath yn Hampshire eu bod nhw’n “llawn dop” o’r creaduriaid.

Roedden nhw wedi derbyn 50 mochyn cwta o un cartref ar ôl i’r perchennog ganiatáu iddyn nhw redeg yn wyllt yn yr ardd a bridio’n gyflym.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen bod sawl un o’r moch cwta yn feichiog ac roedd rhaid dod o hyd i gartrefi iddyn nhw cyn i’r ganolfan “fyrstio”.

Roedden nhw’n argymell fod unrhyw un oedd yn cadw moch cwta yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n barau o’r un rhyw er mwyn eu hatal rhag bridio.

“Mae pobol sy’n bod yn anghyfrifol ac yn caniatáu i’w hanifeiliaid fridio yn creu trafferth i bobol eraill,” meddai Graham Hammond o’r elusen.

“Mae ein canolfannau ni’n llawn anifeiliaid na ddylai fod wedi bridio yn y lle cyntaf.”