Dug a Duges Caergrawnt
Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi penderfynu creu cartref parhaol yn Llundain yng nghyn-gartref y Dywysoges Margaret ym Mhalas Kensington. Bu’r Dywysoges farw yn 2002.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan na fydd modd iddyn nhw symud i’r fflat am ddwy flynedd am fod cymaint o waith i’w wneud yno. Rhaid cael gwared â chryn dipyn o asbestos ac adnewyddu’r sytem drydan, cynhesrwydd a dwr poeth.

Nid oes modd amcangyfrif y gôst hyd nes y bydd y lle wedi cael ei archwilio yn iawn ond bydd y tâl am y gwaith yn dod o gronfeydd y llywodraeth i’r Teulu Brenhinol.

Mae’r Dug a’r Dduges yn byw mewn eiddo bychan ar dir Palas Kensington ar hyn o bryd a disgwylir y bydd y Tywysog Harry yn symud yno ar ôl iddyn nhw fudo i’w cartref newydd.

Roedd William a Harry yn byw ym Mhalas Kensington efo’u mam, y Dywysoges Diana pan roedd y ddau yn fach.