Sir Alex Ferguson
Bydd Stand y Gogledd yn Old Trafford yn cael ei adnabod fel Stand Sir Alex Ferguson o hyn allan i gydnabod ei chwarter canrif fel rheolwr Manchester United.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r clwb 101 oed enwi stand ar ôl unrhyw unigolyn.

Bydd cerflun o Sir Alex gan Philip Jackson hefyd yn cael ei ddadorchuddio y tu allan i’r stand cyn dechrau’r tymor nesaf.

Cafodd groeso twymgalon gan ei chwaraewyr, tîm Sunderland a’r cefnogwyr i gyd wrth iddo gerdded allan ar y cae ar gyfer y gêm y prynhawn yma. Mae wedi rheoli Manchester United yn llwyddianus ers 6 Tachwedd 1986 gan olynu Ron Atkinson.

Dywedodd Prif Weithredwr Manchester United, David Gill, “Mae Sir Alex wedi hen sefydlu ei hun fel y rheolwr mwyaf llwyddianus yn hanes pêl-droed ym Mhrydain… ac mae ei gyfraniad i Manchester United wedi bod yn anferthol”.

Wrth i bawb godi ar eu traed i’w gymeradwyo, dywedodd Ferguson ei fod yn tu hwnt o falch o ‘”gael gweithio i’r clwb gorau yn y byd.”