Mae heddlu sy’n ymchwilio i daliadau anghyfreithlon i blismyn gan gwmni News International wedi arestio newyddiadurwr 48 oed heddiw.

Dydi enw’r newyddiadurwr heb gael ei ddatgelu, ond maen debyg ei fod yn gyn-aelod o staff gyda News International.

Cafodd y newyddiadurwr ei arestio tua 10.30 y bore yma mewn lleoliad tu allan i Lundain mewn cysylltiad â honiadau o lygredd, ac fe’i drosglwyddwyd i swyddfa’r heddlu yng ngorllewin Llundain.

Mae llefarydd ar ran Scotland Yard wedi cadarnhau nad swyddog o’r heddlu yw’r dyn, ond ei fod wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.

Mae News International wedi gwrthod gwneud sylw.

Dyma’r chweched dyn i gael ei arestio mewn cysylltiad ag Operation Elveden, sef yr ymchwiliad i honiadau fod newyddiadurwyr News International wedi gwneud taliadau “anaddas” i’r heddlu.

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio wedi i Scotland Yard edrych i mewn i honiadau o hacio ffonau gan newyddiadurwyr y News of the World.