Streic darlithwyr yng Nghaerdydd
Mae aelodau o undeb Unsain, yr undeb fwyaf yn y DU, wedi pleidleisio o blaid cynnal streic dros newid i’w pensiynau.

Roedd yr undeb wedi lansio ymgyrch fawr i annog eu haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr y sector cyhoeddus fel nyrsys a gweithwyr cymdeithasol, i bleidleisio o blaid cynnal streic.

Roedd 245, 358 wedi pleidleisio o blaid cynnal streic 24 awr ar 30 Tachwedd, a 70, 253 yn erbyn.

Mae’r undebau yn bwrw mlaen gyda’u cynlluniau i gynnal streic er gwaetha cynnig newydd gan y Llywodraeth ynglŷn â’u pensiynau, ond dywed arweinwyr yr undebau er eu bod yn croesawu’r cynnig newydd, dyw cynlluniau’r Llywodraeth ddim yn mynd yn ddigon pell.