Fe allai protestwyr gwrth-gyfalafiaeth aros tu allan i Gadeirlan Sant Paul am y deufis nesa, ar ôl i Gorfforaeth Dinas Llundain ohirio gwneud cais cyfreithiol i orfodi’r protestwyr i symud tan y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd y protestwyr bod cynrychiolwyr y Gorfforaeth wedi cytuno i ohirio eu cais i’w symud o’r safle ar yr amod bod na ostyngiad yn nifer y pebyll tu allan i’r gadeirlan.

Cafodd y cynnig ei wneud ddoe yn ystod cyfarfod rhwng y protestwyr a chynrychiolwyr y Gorfforaeth, yn ôl y grŵp ymgyrchu.

Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod gan y protestwyr heddiw.

Roedd disgwyl i swyddogion y Gorfforaeth roi rhybudd i’r protestwyr i symud o’r safle o fewn 48 awr neu wynebu camau cyfreithiol ond mae’n ymddangos eu bod nhw bellach yn oedi.

Dywedodd Stuart Fraser, cadeirydd polisi y gorfforaeth, mai’r prif fwriad oedd sicrhau bod y ffordd yn glir. Mae na bryderon wedi bod ynglŷn â iechyd a diogelwch ers i’r protestwyr ddechrau gwersylla yno ar 15 Hydref.

Mae’r brotest wedi achosi rhwyg ymhlith aelodau o awdurdod y Gadeirlan ac mae dau wedi ymddiswyddo. Ond ddoe, dywedodd Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams ei fod yn cydymdeimlo â’r protestwyr ac yn cefnogi eu galwad am dreth ar y banciau.