Julian Assange
Mae pennaeth WikiLeaks Julian Assange wedi colli ei gais yn yr Uchel Lys i’w atal rhag cael ei anfon nôl i Sweden i wynebu honiadau o droseddau rhywiol.
Roedd dau farnwr wedi gwrthod ei honiadau y byddai ei anfon nôl i Sweden yn “anheg ac yn anghyfreithlon”. Mae’r awdurdodau yn Sweden am iddo ateb cyhuddiadau o “dreisio” un dynes ac “ymosod yn rhwyiol” ar ddynes arall yn Stockholm ym mis Awst y llynedd.
Mae Assange, 40, yn gwadu’r honiadau ac yn dweud bod na sail wleidyddol i’r honiadau. Roedd gwefan Assange, WikiLeaks wedi cyhoeddi llwyth o wybodaeth cyfrinachol oedd wedi achosi embaras i nifer o lywodraethau a busnesau rhyngwladol.
Roedd nifer o gefnogwyr Assange tu allan i’r llys yn cario baneri yn galw am ryddhau Assange.