Poster protest Bro Morgannwg
Mae protestwyr wedi llwyddo i darfu ar waith dadleuol i chwilio am nwy siâl ar Lannau Mersi, yn ôl adroddiadau gan yr heddlu’r bore ’ma.

Llwyddodd grŵp ymgyrchu amgylcheddol Frack Off i fynd i mewn i’r ganolfan nwy siâl yn Banks, ger Southport ar Lannau Mersi am 5.30am y bore ’ma.

Mae cwmni egni Cuadrilla Resources yn chwilio’r ardal am nwy drwy ddefnyddio’r dull ‘ffracio’ dadleuol, sy’n broses hydrolig o dorri creigiau siâl gan ddefnyddio hylif gwasgedd uchel er mwy rhyddhau’r nwy.

Mae’r broses yn un cyfarwydd i nifer yn ne Cymru, gan fod ymgyrchwyr ym Mro Morgannwg wedi bod yn protestio ers saith mis yn erbyn datblygiad tebyg yn eu hardal.

Bythefnos yn ôl fe glywodd y cwmni yn yr achos hwnnw, Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr, fod Cyngor Bro Morgannwg wedi gwrthod eu cais i ‘ffracio’, yn sgil pryderon gan gwmni Dŵr Cymru y gallai’r broses achosi llygredd dŵr.

Gobeithio datrys y sefyllfa’n heddychlon

Yn ôl llefarydd ar ran heddlu Swydd Gaerhirfryn, fe lwyddodd “saith o brotestwyr i fynd i mewn i safle drilio nwy Cuadrilla yn Banks am 5.30am.

“Mae chwech allan o’r saith wedi dringo fyny’r rig ar y safle ac wedi codi baner. Mae un protestiwr yn dal ar y llawr.

“Mae’r heddlu yn bresennol ac wedi codi cortyn o gwmpas y safle.  Rydyn ni nawr yn trafod gyda pherchnogion y safle a’r protestwyr er mwyn datrys y sefyllfa mewn modd heddychlon.”

Mae llefarydd ar ran y cwmni wedi dweud eu bod nhw’n asesu’r sefyllfa ar hyn o bryd, a bod yr heddlu wedi atal mynediad i’r safle am y tro.