Affganistan
Roedd dau Brydeiniwr ymhlith yr 13 laddwyd ddoe wedi i hunan-laddwr ffrwydro bom tra’n ymosod ar gonfoi oedd yn teithio heibio’r Brifysgol Americaniadd yn y ddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod teuluoedd y gweithwyr wedi cael gwybod am eu marwolaeth a bod swyddogion y llysgenhadaeth mewn cysylltiad cyson efo cyflogwyr y ddau.

Lladdwyd pump o filwyr a wyth gweithiwr cyffredin yn yr ymosodiad.