Bydd perchnogion ail gartrefi yn Lloegr yn colli eu disgownt treth y cyngor yn ôl cynlluniau gaiff eu cyhoeddi yfory (Llun) gan Lywodraeth San Steffan.

Bydd gan y cynghorau lleol y grym i ostwng neu atal y disgownt yn gyfangwbl yn ôl yr Ysgrifennydd Cymunedau, Eric Pickles. Mae’r disgownt yn werth hyd at 50% o’r dreth ar hyn o bryd a dywedodd Mr Pickles y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ostwng treth y cyngor ar gyfartaledd o £20 y flwyddyn ar gyfer pob teulu.

Mae hefyd yn bwriadu adolygu y rheolau sydd yn trin granny flats fel adeiladau ar wahan i bwrpas trethiannol. Ar hyn o bryd mae teuluoedd sy’n cynnig cartref i berthynas mewn ychwanegiad i’r prif gartref yn gorfod talu treth y cyngor ar ddau adeilad.

“Dwi eisiau gwneud rhagor i helpu teuluoedd cyffredin efo’u gwariant a gwarchod cartrefi teuluol rhag cynnydd mewn trethi,” meddai.