Mae disgwyl i enw arweinydd newydd y Blaid Lafur gael ei gyhoeddi am oddeutu 11 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 4).

Syr Keir Starmer yw’r ffefryn i olynu Jeremy Corbyn ar ddiwedd ras yn erbyn Lisa Nandy a Rebecca Long-Bailey.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng e-bost, a’r enillydd yn ymddangos yn fuan wedyn trwy gyswllt fideo yn sgil y coronafeirws.

Y cyhoeddiad fydd penllanw ymgyrch sydd wedi para tri mis.

Dirprwy arweinydd

Bydd enw’r dirprwy arweinydd newydd hefyd yn cael ei gyhoeddi, a’r ffefryn ar gyfer y swydd honno yw Angela Rayner.

Mae hi’n cystadlu yn erbyn Rosena Allin-Khan, Richard Burgon, Dawn Butler ac Ian Murray.

Penderfynodd Tom Watson nad oedd e am barhau’n aelod seneddol adeg yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.