Mae’n bosib y bydd angen dod â’r fyddin i’r carchardai oherwydd perygl cynyddol o drais yn ystod y pandemig coronafeirws.
Dywedodd Dave Cook, o undeb y POA, nad oedd posib i’r heddlu helpu yn y carchardai am fod ganddyn hwythau eu hunain brinder staff, ac felly o bosib byddai angen dod â’r fyddin i mewn.
Dywedodd fod carchardai fel “sosban frys”, gyda charcharorion dan glo am hyd at 20 awr y dydd, a niferoedd sydd yn golygu fod ymbellhau cymdeithasol “bron yn amhosib” i’w weithredu.
“Yr hiraf mae hyn yn parhau,” meddai Dave Cook “yna mae’r perygl o drais ac anhrefn yn cynyddu. Does ond angen edrych ar yr Eidal.
“Aeth y coronafeirws i bob carchar yn yr Eidal ac fe ddioddefon nhw gythrwfl, a chymryd gwystlon, a phopeth arall – felly dyna mae’r carchardai yn ceisio ei osgoi neu geisio ei reoli, ond wrth i staff gael eu heintio- ac mi wnawn nhw- yna bydd y nifer o staff fydd ar gael yn cwympo.
“Bydd hi wedyn yn anoddach i adael carcharorion allan o’u celloedd fel eu bod yn gallu ffonio eu teuluoedd ac ymarfer corff ac yn y blaen.”
Dywedodd os nad oedd carcharorion risg isel yn cael eu rhyddhau, yna efallai y bydd angen dod a’r fyddin i mewn er mwyn cadw trefn.
Yn ôl ffynhonnell o Lywodraeth y DU, mae gwneud defnydd o’r fyddin o fewn carchardai, ynghyd ag opsiynau eraill yn cael eu hystyried.
Yr heddlu methu helpu
Erbyn dydd Llun (Mawrth 30) roedd 65 o garcharorion wedi cael canlyniadau positif o’r coronafeirws mewn 23 o wahanol garchardai ar draws Cymru a Lloegr, ac mae tua 3,500 o staff yn hunanynysu oherwydd symptomau Covid-19.
“Mae gan y carchardai gynlluniau brys ar gyfer colli staff” meddai Dave Cook “ac fel arfer mi fydden ni’n galw ar yr heddlu i ddod i helpu, ond, mae’r heddlu wedi ei gwneud hi’n gwbl glir eu bod hwythau yn dioddef yr un broblem a phawb arall.
“Bydd yr heddweision yn dal y firws, felly mae’n nhw’n wynebu diffyg staffio hefyd, felly y dewis arall yw y byddan nhw’n troi at y fyddin a rydw i ar ddeall fod rhai o’r fyddin wedi eu hyfforddi ar rhai o’r pethau elfennol sydd ei angen i weithio mewn carchar.