Mae’r Tywysog Charles, a gafodd brawf bositif am y coronafeirws wythnos ddiwethaf, yn gwella a ddim yn hunan ynysu bellach, meddai Clarence House.

Roedd y Tywysog Charles, 71, wedi datblygu symptomau ysgafn o’r coronafeirws ac wedi bod yn hunan ynysu yn ei gartref yn yr Alban, Brikhall, am saith diwrnod ers cael y prawf ar Fawrth 24.

Nid oedd Duges Cernyw, 72, sydd hefyd yn Birkhall, wedi cael ei heintio gyda’r coronafeirws ond mae hi’n parhau i hunan ynysu tan ddiwedd yr wythnos, yn unol â’r cyngor i wahanu am 14 diwrnod.

“Mae Clarence House wedi cadarnhau heddiw, nad yw’r Tywysog yn hunan ynysu bellach wedi iddo ymgynghori â’i ddoctor,” meddai llefarydd.

Dywed fod y Tywysog Charles yn holliach, ac wedi parhau i weithio wrth ei ddesg a chynnal cyfarfodydd dros y ffôn tra’r oedd yn hunan ynysu.