Mae golwg360 wedi gweld e-bost sy’n amlinellu’r camau newydd mae archfarchnad Sainsbury’s yn eu cymryd wrth ymateb i’r coronafeirws.

Mae’r archfarchnad wedi gweld galw uwch nag arfer ar gyfer eitemau, wrth i gwsmeriaid bentyrru stoc yn ystod ymlediad y feirws.

Dywed yr archfarchnad eu bod nhw am stocio rhagor o nwyddau hanfodol ac o ddydd Llun (Mawrth 23), byddan nhw’n ymestyn eu horiau agor o 8yb i 8yh o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Ddydd Iau diwethaf, fe wnaethon nhw arbrofi gydag awr wedi’i neilltuo ar gyfer pobol oedrannus a bregus gael mynd i siopa ac mae disgwyl i hynny barhau ond fe fydd yn cael ei ymestyn i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol.

Bob dydd Llun, Mercher a Gwener, bydd awr benodol ar gyfer pobol oedrannus, pobol ag anableddau a phobol fregus, yn ogystal â gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Y cyfan fydd angen ei wneud, meddai’r archfarchnad, yw dangos cerdyn adnabod a bydd staff yn sicrhau bod nwyddau hanfodol ar gael, ac nad yw pobol yn gorfod sefyll yn rhy agos i’w gilydd wrth giwio.

Gwarchod staff

Mae’r archfarchnad hefyd wedi cyhoeddi cyfres o fesurau i warchod eu staff yn ystod cyfnod anodd.

Mae’r rhain yn cynnwys cynnig tâl salwch i’r rhai sy’n sâl neu’n ynysu eu hunain am hyd at 14 diwrnod.

Bydd pobol fregus ac oedrannus sy’n gweithio i’r cwmni hefyd yn cael tâl os bydd rhaid iddyn nhw ynysu eu hunain am hyd at 12 wythnos.

Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i sefyll o leiaf fetr i ffwrdd o’r staff, ac i dalu â cherdyn di-gyswllt yn hytrach nag arian parod.