Mae Banc Lloegr wedi gostwng ei brif gyfradd llog o 0.75% i 0.25%.
Dywed y banc canolog fod y penderfyniad wedi ei gymryd yn sgil lledaeniad coronavirus, sydd wedi gweld marchnadoedd stoc a chyfranddaliadau yn gostwng o amgylch y byd.
Mewn datganiad, dywed y banc mai ei rôl yw helpu busnesau a theuluoedd i ymdopi â sioc economaidd yn sgil y coronavirus “a allai fod yn llym a mawr, ond dylai fod dros dro.”
Dyma’r gostyngiad cyntaf ers Awst 2016, a’r tro cyntaf i benderfyniad ar gyfradd llog oedd heb ei drefnu o flaen llaw cyntaf gael ei gymryd ers argyfwng ariannol 2008.
Daeth y penderfyniad i ostwng y brif gyfradd llog mewn cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Polisi Ariannol ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 10).
Pleidleision nhw hefyd i’r banciau gyflwyno cynllun ariannu newydd gyda chymhellion i fusnesau bach a chanolig, wedi ei ariannu gan gronfa wrth gefn y banc canolog.
“Byddwn yn helpu i gefnogi busnesau a hyder y prynwr mewn cyfnod anodd, i gynyddu llif arian busnesau a theuluoedd, i leihau costau, a gwella argaeledd cyllid,” meddai’r banc.