Mae elusennau’n rhybuddio bod pobl ddigartref mewn perygl llawer mwy na gweddill y boblogaeth yn sgil y Coronafeirws.

Mae hyn oherwydd eu bod yn fwy tebygol o ddioddef amrywiaeth o broblemau iechyd eisoes, ac yn llai tebygol o allu golchi eu dwylo’n rheolaidd ac o allu hunan-ynysu os ydyn nhw’n mynd yn sâl.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, cododd nifer marwolaethau pobl ddigartref ym Mhrydain o 482 yn 2013 i 726 yn 2018.

Mae’r elusennau Crisis a Shelter wedi gofyn i’r Llywodraeth am gyngor ar reoli risg y feirws Covid-19 ond heb gael ateb eto.

Dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan, hefyd ei fod yn bryderus am ddiffyg cyngor penodol gan y Llywodraeth i amddiffyn pobl sy’n byw ar y stryd, y rhai mewn gwasanaethau asesu a phobl mewn hostelau.

“Dw i’n pwyso ar weinidogion i gyd-drafod ag elusennau a rhoi canllawiau swyddogion ar fyrder,” meddai.