Mae Angus Robertson, cyn-arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn dweud bod “Caeredin yn haeddu gwell” wrth gyhoeddi ei fwriad i frwydro am sedd Ruth Davidson yn Holyrood.

Datgelodd Angus Robertson y bydd yn chwilio am enwebiad yr SNP i sefyll yn etholaeth Canol Caeredin yn etholiadau 2021 pan fydd Ruth Davidson yn camu o’r neilltu.

Ym mhapur yr Edinburgh Eveing News, dywed Angus Robertson fod Ruth Davidson wedi “rhoi sylw i yrfaoedd eraill yn Llundain yn lle canolbwyntio ar y bobol y mae’n eu cynrychioli yn Holyrood,” ac mae’n dadlau bod ei hetholwyr yn “haeddu gwell”.

‘Fi fyddai’r ymgeisydd gorau’

“Ar hyn o bryd, mae calon prif ddinas yr Alban yn cael ei gynrychioli gan rhywun fyddai’n ffafrio bod yn Nhŷ’r Cyffredin a cheisio am swydd mewn cysylltiadau cyhoeddus,” meddai wrth gyhoeddi ei fwriad.

“Mae angen aelod seneddol ar Ganol Caeredin sydd ag ymrwymiad llawn i’w etholwyr a’r etholaeth, ac mae angen ymgeisydd llawn amser ar yr SNP i ennill y sedd bwysig yma.

“Rydw i’n credu mai fi fyddai’r ymgeisydd gorau ar gyfer hyn.”

Collodd cyn-arweinydd yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin ei sedd yn San Steffan i’r Ceidwadwr Douglas Ross yn yr etholiad cyffredinol yn 2017.