Dylid cymryd camau i rwystro protestwyr rhag gwrthdystio y tu allan i glinigau erthyliad, yn ôl Aelod Seneddol yn Llundain.

Mae Catherine West yn cynrychioli etholaeth Hornsey a Wood Green, a bu’n rhaid i’r heddlu ymateb i ddigwyddiad yno dros y penwythnos.

Roedd y mater a ddenodd yr heddlu y tu allan i glinig, a bellach mae’r Aelod Seneddol Llafur wedi galw am sefydlu “mannau diogel”.

“Rydym yn gwybod nad yw cynghorau yn gallu gwneud rhyw lawer,” meddai wrth Aelodau Seneddol.

“Yr unig ddull cyfreithiol sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd yw’r ‘gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus’. A dyw hynny ddim yn briodol am y fath yma o broblem.

“Ac rydym yn gwybod bod hi’n anodd sefydlu buffer zones dan y dull cyfreithiol penodol yna.”