Mae heddwas wedi cael ei ddiswyddo oherwydd y ffordd yr oedd wedi delio â galwadau 999, gan gynnwys achosion o dreisio, trais yn y cartref a bygythiad o hunan-laddiad.

Roedd ymchwiliad gan y corff sy’n arolygu’r heddlu yn dangos o’r 3,000 o alwadau brys roedd yr heddwas wedi delio â nhw yn ystod cyfnod o dri mis yn 2009, roedd na broblemau “sylweddol” ym mherfformiad yr heddwas wrth ymdrin â 141 o’r galwadau brys ac roedd  yn euog o gamymddygiad dybryd yn achos 19 o’r  galwadau.

Cafodd yr heddwas 58 oed, a oedd yn gweithio yn un o swyddfeydd y Met yn nwyrain Llundain, ei ddiswyddo ar ôl gwrandawiad camymddygiad.