Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi enwebu cyn cangellorion Ken Clarke a Philip Hammond i Dŷ’r Arglwyddi – ychydig fisoedd yn unig ar ôl eu gwahardd o’r Blaid Geidwadol seneddol.

Safodd y ddau i lawr yn yr etholiad cyffredinol llynedd ar ôl colli’r chwip wedi iddynt gefnogi mesurau i rwystro Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ond yn ôl y BBC, gallai’r ddau ddychwelyd i San Steffan ar ôl cael eu henwebu am seddi yn Nhŷ’r Arglwyddi gan Boris Johnson.

Roedd Ken Clarke wedi bod yn Aelod Seneddol am 49 mlynedd cyn sefyll i lawr y llynedd.

Mae’n debyg bod cyn arweinydd y Torïaid yn yr Alban, Ruth Davidson, hefyd wedi cael ei enwebu gan Rif 10 Downing am sedd yn y siambr uchaf.