Mae dros dair miliwn o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud cais i gael aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, yn ôl y Swyddfa Gartref.

Dywed y cyhoeddiad bod 2.7 miliwn o ymgeiswyr eisoes wedi derbyn caniatâd i gael aros yn y Deyrnas Unedig.

Rhwng Awst 28 2018 a Rhagfyr 31 2019, cafodd dros 2.4 miliwn o geisiadau eu cwblhau, yn ôl data’r Swyddfa Gartref.

O’r rheini, cafodd 58% yr hawl i aros yn barhaol a chafodd 41% yr hawl i aros yn y wlad dros dro a’r cyfle i ail-geisio pan fydden wedi byw yn y Deyrnas Unedig am bum mlynedd.

Dywed yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel: “Dwi wrth fy modd bod yna eisoes dros dair miliwn o geisiadau wedi eu hanfon i’r EU Settlement Scheme.

“Dyma’r cynllun mwyaf o’i fath yn hanes Prydain ac mae’n golygu y gall dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gadw eu hawliau am ddegawdau i ddod.

“Mae’n bryd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd fabwysiadu cynllun tebyg.”