Fe fydd nifer o undebau yn mynd i’r Uchel Lys heddiw i herio penderfyniad y Llywodraeth i newid y ffordd mae pensiynau yn y sector cyhoeddus yn cael eu pennu.
Mae’r undebau’n dadlau bod y newid yn “annheg” i filiynau o weithwyr.
Mae’r newid yn golygu defnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn hytrach na’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) i bennu cynnydd mewn pensiynau.
Mae’r undebau’n dadlau bod y newid wedi ei gyflwyno heb unrhyw ymgynghoriad.