Mae ymchwiliad wedi clywed fod cwmnïau preifat, oedd yn gyfrifol am adnewyddu Tŵr Grenfell, wedi gwrthod derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y tân trychinebus a laddodd 72 o bobl yn 2017, er i arbenigwyr ddweud fod y cwmnïau hyn heb gyrraedd y safonau adeiladu disgwyliedig.

Wedi’i adeiladu yn 1974, cafodd y twr ei adnewyddu rhwng 2012 a 2016 – gan gynnwys ychwanegu cladin alwminiwm dros arwyneb concrit yr adeilad.

Daeth rhan gyntaf yr ymchwiliad i’r casgliad mai dyma oedd y “prif reswm” i’r fflamau ledaenu’n gyflym drwy’r adeilad.

Mae ail gam yr ymchwiliad bellach wedi dechrau, a bydd yn ystyried sut gafodd yr adeilad ei orchuddio â chladin fflamadwy yn y lle cyntaf.

“Rhoi’r bai ar rywun arall”

Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad Richard Millett QC yn ei sylwadau agoriadol: “Ac eithrio RBKC nid oes un cwmni oedd yn ymwneud ag adnewyddu sylfaenol Tŵr Grenfell wedi teimlo ei bod yn gallu derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd.

“Ym mhob achos, roedd bob un ohonyn nhw yn rhoi’r bai ar rywun arall.”

Bydd yr ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth Syr Martin Moore-Bick, yn clywed gan Exova, a roddodd gyngor ar ddiogelwch tân, a Celotex, ddydd Mawrth.

Ymddiswyddiad

Roedd nifer o brotestwyr wedi ymgynnull tu allan i’r ymchwiliad ar ôl i Benita Mehra, aelod o’r panel ymchwilio, ymddiswyddo ar ôl cael ei chysylltu â changen elusennol o’r cwmni a gyflenwodd cladin i’r adeilad.

Dywedodd Michael Mansfield QC, sy’n cynrychioli’r dioddefwyr, bod “distawrwydd syfrdanol” gan y Prif Weinidog Boris Johnson a Swyddfa’r Cabinet yn dilyn ymddiswyddiad Benita Mehra o’r panel ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd “nad oedd sôn a fydd rhywun arall yn cymryd ei lle”.