Mae Jess Phillips wedi tynnu’n ôl o’r ras i arwain y Blaid Lafur.
Mae’n dweud bod angen ymgeisydd sy’n gallu uno pob carfan o fewn y blaid, ac nad yw’n teimlo mai hi yw’r person gorau i wneud hynny.
Doedd aelod seneddol Birmingham Yardley ddim mewn digwyddiad hystingau a gafodd ei drefnu gan GMB, undeb a allai fod yn allweddol i ganlyniad y bleidlais yn y pen draw.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan iddi fethu â bod yn y digwyddiad oherwydd “apwyntiad nad oedd modd ei osgoi”.
Dywedodd hithau ddoe (dydd Llun, Ionawr 20) y byddai’n benderfyniad “dewr” i’w hethol hi’n arweinydd.
Syr Keir Starmer yw’r ceffyl blaen ar ôl sicrhau y bydd ei enw’n ymddangos ar bapurau pleidleisio. Mae e eisoes wedi sicrhau cefnogaeth nifer o undebau a grwpiau.
Rebecca Long-Bailey, Emily Thornberry a Lisa Nandy yw’r enwau eraill yn y ras ar hyn o bryd.
Mae angen enwebiadau gan dri grŵp Llafur, gan gynnwys dwy undeb, er mwyn sefyll, gan fod hynny’n cyfateb i 5% o’r aelodau cysylltiedig.
Fel arall, byddai angen cefnogaeth 33 o ganghennau lleol y blaid.
Bydd dadl deledu’n cael ei chynnal ar Channel 4 ar Chwefror 17 dan arweiniad Krishnan Guru-Murthy.
Bydd y bleidlais yn agor ar Chwefror 21, yn cau ar Ebrill 2 a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4.