Mae Rebecca Long-Bailey yn dweud y byddai hi’n diddymu Tŷ’r Arglwyddi pe bai hi’n cael ei hethol yn arweinydd y Blaid Lafur ac yn brif weinidog Prydain.

Daw’r sylwadau wrth iddi gyhoeddi cyfres o fesurau pe bai hi’n cael olynu Jeremy Corbyn ac arwain y Blaid Lafur i Downing Street.

“Dw i eisiau diddymu Tŷ’r Arglwyddi a byddwn ni’n cyhoeddi fesul dipyn wrth i fy ymgyrch fynd rhagddi sut ry’n ni’n gobeithio rhoi siglad i’r pecyn cyfansoddiadol hwnnw,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Byddai angen gwirio a chydbwyso mewn mannau, ond cael pobol nad ydyn nhw wedi cael eu hethol yn gwneud hynny sy’n anghywir, dw i’n meddwl.”

Mae Momentum yn cefnogi ei galwadau hefyd.

Refferendwm annibyniaeth yr Alban

Yn ogystal, mae’n dweud na fyddai’n ceisio atal yr Alban rhag cynnal refferendwm annibyniaeth newydd.

“Dw i wedi ymrwymo’n llawn i’r undeb a dw i ddim yn credu y dylai gael ei siglo mewn unrhyw ffordd ond yn y pen draw, mae angen i bobol yr Alban gyflwyno’r ddadl,” meddai.

“Mae ganddyn nhw eu Senedd eu hunain i benderfynu a ydyn nhw am wthio hynny a rhywbeth i fi fel prif weinidog fyddai edrych ar hynny a’i adolygu.

“Fyddwn i ddim eisiau atal democratiaeth y bobol oherwydd mae’n un o’r pileri mwyaf sylfaenol rydyn ni’n falch ohonyn nhw yn y wlad hon.”

Mae hi hefyd yn addo mynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur pe bai’n cael ei hethol.