Mae’r actor Albanaidd Brian Cox yn galw am ail refferendwm annibyniaeth i’r wlad.

Mae’r actor, sy’n serennu ar hyn o bryd yn y ddrama Succession ac a gafodd ei eni yn Dundee, yn dweud mai “digon yw digon”.

Daw ei sylwadau ar ddiwrnod gwobrau’r Golden Globes, lle mae e wedi’i enwebu am un o’r gwobrau.

Enillodd yr SNP 48 allan o 59 o seddi yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf, ac mae’r prif weinidog Nicola Sturgeon yn galw am ganiatâd i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

“Hoffwn feddwl fod angen i ni edrych ar y peth,” meddai’r actor.

“Dw i’n credu bod angen refferendwm arnon ni a gweld beth rydyn ni’n ei feddwl.

“Rydyn ni wedi bod ar y cyrion am yn rhy hir a’n trin yn wael iawn, a heb ein cymryd o ddifrif.”

‘Digon yw digon’

“Yn y pen draw, gallwch chi wthio pobol mor bell nes eu bod nhw’n dweud ’digon yw digon’,” meddai wedyn.

“Mewn gwirionedd, mae angen i ni ofalu am ein tynged ein hunain, o’r diwedd.”

Ond mae’n dweud ei bod yn “anodd” darogan canlyniad unrhyw refferendwm ar annibyniaeth, er i’r Alban gael ei thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn groes i’w hewyllys.