Mae adroddiadau bod dogfennau wedi mynd ar goll o bencadlys MI6.
Mae cytundeb y cwmni adeiladu Balfour Beatty i adnewyddu’r adeilad yn Vauxhall Cross yn ne Llundain wedi cael ei ddirwyn i ben yn dilyn y digwyddiad, yn ôl y Sun.
Mae lle i gredu mai dogfennau a gafodd eu llunio gan y cwmni sydd wedi mynd ar goll, ond nad ydyn nhw wedi mynd i ddwylo peryglus.
Mae Balfour Beatty a’r Swyddfa Dramor, sy’n gyfrifol am MI6, yn gwrthod gwneud sylw.