Philip Hammond
Mae Llywodraeth Prydain wedi annog y llywodraeth dros dro newydd yn Libya i gynnal ymchwiliad i’r modd y bu farw cyn arweinydd unbeniaethol y wlad, Cyrnol Muammar Gaddafi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, fod y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol newydd wedi colli ychydig o’i enw da oherwydd y ffordd wnaeth Gaddafi farw yn nwylo’r rhai oedd wedi ei ddal.

“Mi fydden ni wedi hoffi gweld Cyrnol Gaddafi yn mynd o flaen ei well, yn ddelfrydol yn y Llys Troseddol Rhyngwladol, i ateb am ei gamweddau,” meddai Philip Hammond wrth gael ei gyfweld ar raglen Andrew Marr ar y BBC bore ma.

“Dwi’n credu fod y llywodraeth Libya newydd yn deall fod ei enw da oddi fewn y gymuned ryngwladol wedi cael ei golli rhyw ychydig oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd.

“Dwi’n siŵr y bydden nhw am gael at y gwir mewn ffordd sy’n ailadeiladu ac adfer yr enw da yna,” meddai.