Llwyddodd y Prif Weinidog Boris Johnson i ennill mwyafrif o 124 i ail ddarlleniad ei fesur i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y senedd ddoe (dydd Gwener).

Mae hyn yn gadael y ffordd yn glir i Brydain adael yr Undeb erbyn 31 Ionawr.

Mae’n edrych yn fwyfwy tebygol fodd bynnag mai misoedd o ansicrwydd ac anhrefn fydd yn dilyn, wrth i drafodaethau masnach gychwyn yn ystod y cyfnod pontio.

Mae Boris Johnson wedi pwysleisio na fyddai Prydain yn cadw at reolau masnach yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben ddiwedd y flwyddyn nesaf.

“Mae’r mesur yn sicrhau bod yn rhaid i’r cyfnod pontio ddod i ben ar 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf, heb bosibilrwydd o estyniad,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’n arwain y ffordd at gyfundeb newydd ar ein perthynas â’n cymdogion Ewropeaidd yn y dyfodol, ar sail cytundeb masnach rydd uchelgeisiol. Fe fydd hyn yn digwydd heb gydymffurfio â rheolau’r Undeb Ewropeaidd.”

Pryder yn Iwerddon

Mae Prif Weinidog Iwerddon, Leo Varadkar, wedi mynegi pryder am agwedd Boris Johnson.

“Mae hi am fod yn anodd sicrhau cytundeb masnach da i Iwerddon, yn bennaf oherwydd bod Boris Johnson yn benderfynol o gael Brexit caletach nag oedden ni’n ei ddisgwyl adeg y refferendwm,” meddai.

“Mae hyn yn amlwg yn risg i ni, a’r peryg yw y bydd Prydain yn ceisio torri ar safonau bwyd ac iechyd er mwyn cystadlu am fasnach fyd-eang.”

Dywedodd Charles Michel, olynydd Donald Tusk fel Llywydd Cyngor Ewrop, hefyd fod “cae chwarae gwastad yn rheidrwydd ar gyfer unrhyw berthynas yn y dyfodol”.

Arian i ‘ddathlu’ Brexit

Mae llywodraeth Prydain wedi archebu darnau 50c newydd i ‘ddathlu’ Brexit.

Roedd y canghellor Sajid Javid wedi archebu darnau arian o’r fath yn barod erbyn 31 Hydref, ond bu’n rhaid i’r Bathdy Brenhinol doddi tua miliwn o’r rhain oherwydd yr oedi yn y dyddiad gadael.

Ar ôl cyfarfod o’r Cyfrin Gyngor yr wythnos yma, mae’r Frenhines wedi cyhoeddi y bydd darnau’n cael eu bathu ar gyfer y dyddiad newydd o 31 Ionawr.

Fe fydd y darnau arian yn cynnwys y slogan “Peace, prosperity and friendship with all nations”.