Mae dyn 50 oed o wledydd Prydain wedi cael ei saethu’n farw yn ystod lladrad mewn gwesty yn Buenos Aires, ac mae ei lysfab 28 oed wedi cael ei anafu.

Cawson nhw eu targedu gan ddau ddyn arfog ar gefn beic fore ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14), a’u saethu wrth iddyn nhw wrthsefyll yr ymgais i ddwyn eu heiddo.

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty a bu farw’r dyn 50 oed o ganlyniad i anafiadau i’w frest, ac mae ei lysfab wedi cael anaf i’w goes.

Mae’r heddlu’n chwilio am y ddau ar gefn y beic ynghyd â nifer o bobol eraill oedd yn teithio mewn car yn eu cynorthwyo nhw.

Mae’r heddlu’n ystyried a gafodd y ddau eu dilyn o’r maes awyr i’r gwesty cyn yr ymosodiad.

Mae’r Swyddfa Dramor yn cynnig cymorth i deulu’r ddau ddyn.