Mae tri o bobol, gan gynnwys bachgen 13 oed, wedi’i harestio ar ôl i ddynes 25 oed gael ei thrywanu i farwolaeth yn Swydd Northampton.

Fe ddigwyddodd yn ardal Rushden am oddeutu 8.30 neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 7).

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle ar ôl i barafeddygon geisio ei hachub.

Mae’r bachgen 13 oed a dyn 27 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio, tra bod dyn arall sy’n 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.