Mae Nicola Sturgeon yn dweud nad oedd Boris Johnson na Jeremy Corbyn wedi gwneud argraff arni yn ystod y ddadl deledu gyntaf ar ITV neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 19).

Cafodd prif weinidog yr Alban ei henwi sawl gwaith yn ystod y ddadl, er nad oedd hi’n rhan ohoni.

Mae hi’n dweud nad yw hi’n credu bod y naill ddyn na’r llall yn ffit i fod yn brif weinidog “ar sail y perfformiadau yma”.

Roedd perthynas yr Alban gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig yn bwnc llosg yn y ddadl, wrth i Boris Johnson gyhuddo Jeremy Corbyn o fod wedi taro bargen gyda Nicola Sturgeon.

Yr Alban

Dywedodd Jeremy Corbyn na fyddai “unrhyw gefnogaeth i refferendwm Albanaidd” yn ystod blynyddoedd cynnar llywodraeth Lafur.

“Yr hyn sydd i’w gymryd allan o’r ddadl i’r Alban yw na ddylai unrhyw un o’r dynion yma allu penderfynu ar ddyfodol yr Alban,” meddai Nicola Sturgeon.

“Dyw Jeremy Corbyn methu penderfynu os yw e am aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Boris Johnson yn benderfynol o dynnu’r Alban allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ein hewyllys.”