Joanna Yeates
Yn achos llofruddiaeth Joanna Yeates, mae Vincent Tabak wedi ymddiheuro wrth ei theulu am eu rhoi drwy “wythnos o uffern” ar ol cuddio ei chorff.

Roedd teulu Joanna Yeates yn Llys y Goron Bryste heddiw wrth i Tabak, sydd wedi ei gyhuddo o’i llofruddio, ddweud ei fod wedi ei thagu mewn panig ar ôl iddi wrthod ei ymdrechion i’w chusanu. Dywedodd  ’na allai gredu’ ei fod wedi ei lladd.

Mae Tabak, 33, o’r Iseldiroedd hefyd wedi cadarnhau bod corff Joanna Yeates wedi bod yng nghist ei gar pan aeth i siopa i Asda yn fuan ar ôl iddo ei lladd.

Dywedodd wrth y rheithgor: “Alla’i ddim credu fy mod i wedi gwneud hynny.”

Mae Tabak wedi cyfaddef iddo ladd Joanna Yeates ond mae’n gwadu ei llofruddio.