Dim ond Brexit sy’n gwarchod dyfodol y Deyrnas Unedig fel undeb y bydd y DUP yn ei gefnogi, yn ôl Nigel Dodds, dirprwy arweinydd y blaid.

Daw’r neges wrth iddo annerch cynhadledd ei blaid yn Belffast, lle anfonodd e neges uniongyrchol at Boris Johnson yn dilyn ei sylwadau yntau yn yr un gynhadledd y llynedd.

Dywedodd Boris Johnson bryd hynny na fyddai’n codi ffiniau economaidd yn Iwerddon.

“Cadwch at eich gair, Brif Weinidog,” meddai Nigel Dodds yn ei araith.

“Mae’r blaid hon wedi egluro erioed ein bod ni eisiau bargen.

“Bargen sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig gyfan ac i’r Undeb Ewropeaidd.

“Bargen sy’n cydnabod hanes a daearyddiaeth unigryw Gogledd Iwerddon.

“Bargen sy’n cefnogi ein cymuned fusnes a theuluoedd ar draws y dalaith hon.”

Fe ddisgrifiodd y fargen bresennol fel “y gwaethaf o ddau fyd”.

Galw am onestrwydd

Yn y cyfamser, mae Arlene Foster, arweinydd y DUP, yn galw am onestrwydd gan Lywodraeth Prydain ar fater Brexit.

Mae’n addo gwrthwynebu’r fargen bresennol hyd nes y bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno, gan ei bod yn mynd â Gogledd Iwerddon “i’r cyfeiriad anghywir”.