Bydd gweithwyr o du allan i’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwahardd rhag dod i’r Deyrnas Unedig i weithio fel athrawon bioleg, milfeddygon, a cherddorion, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan heddiw.

Bydd y penderfyniad yn golygu bod  nifer y swyddi sydd ar gael i fewnfudwyr o du allan i’r Undeb Ewropeaidd yn disgyn 40,000 o’r herwydd, i 190,000, wedi i’r Llywodraeth dderbyn cyngor gan Bwyllgor Ymgynghori ar Fewnfudwyr, meddai’r Swyddfa Gartref.

Bydd 28 swydd-ddisgrifiad yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr swyddi posib fis nesaf, er mwyn sicrhau mwy o swyddi i bobol o Brydain.

Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, fod y Llywodraeth yn gweithredu er mwyn “darparu busnesau gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw o blith gweithwyr Prudain, a gostwng eu hangen am fewnfudwyr.”