Liam Fox
Mae disgwyl i adroddiad swyddogol i gysylltiad y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox â’i ymgynghorydd answyddogol Adam Werritty gyhoeddi ei fod wedi torri’r côd ymddygiad gweinidogol.

Mae’n debyg bod Ysgrifennydd y Cabinet Syr Gus O’Donnell eisoes wedi cyflwyno ei adroddiad i David Cameron ac fe fydd yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae disgwyl i Syr Gus O’Donnell gyhoeddi adroddiad “damniol” i ymddygiad Dr Fox ond ar yr un pryd, mae’n derbyn nad oedd wedi elwa’n bersonol o’i berthynas â Adam Werritty.